Y Drenewydd
yn yr oes Fictoria
  Tafarn y Buck, Y Drenewydd  
 

Ty preifat gyda ffrâm o goed a adeiladwyd yn yr 17fed ganrif oedd Tafarn y Buck yn wreiddiol, gyda’r llawer uchaf yn ymestyn allan yn bellach na’r llawr gwaelod ar du blaen yr adeilad.
Mae’n debyg fod iddi do gwellt fel Tafarn y Checkers ar Broad Street gerllaw. Mae’r dafarn, sydd wedi’i lleoli yn High Street, yno o hyd. Dyma un o adeiladau hynaf y dref.

 
Tafarn y Buck
High Street
Y Drenewydd
Buck Inn, Newtown
 

Newidiodd i fod yn dafarn drwyddedig yn gynnar yn yr 19fed ganrif. Ar law dde’r adeilad roedd darn o dir a ddefnyddiwyd fel iard ocsiwn am rai blynyddoedd, ond yn yr 1920au lleolwyd busnes garej yno.
Mae’n ymddangos fod siop ddodrefn yn arfer bod ar y safle sy’n dod i’r golwg ar y dde yn y llun hwn. Nid oes dyddiad i’r llun.

 

Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Drenewydd

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Drenewydd