Y Drenewydd
yn yr oes Fictoria
  Y Drenewydd yn 1846  
 

Hen ysgythriad o 1846 yw’r llun hwn sy’n rhoi golwg o’r awyr o’r Drenewydd. Mae’n edrych i gyfeiriad y de o ochr Penygloddfa i’r Afon Hafren.
Mae’r afon bron o’r golwg yn llwyr yn y llun hwn, ond gallwch ei gweld ar y dde yng ngwaelod y llun cyn iddi ddiflannu y tu ôl i dir uwch. Mae’r Long Bridge neu’r Bont Hir ychydig i’r chwith o’r canol yng ngwaelod y llun. Daw’r afon i’r golwg eto ar y chwith fel mae’n troi’n sydyn o gwmpas hen Eglwys y Santes Fair.

 

Newtown in 1846
  Yn 1846 daliai’r hen Neuadd y Farchnad i sefyll yn Broad Street, a gelwid y rhan o’r stryd rhwng y neuadd a’r ‘Long Bridge’ yn Long Bridge Street.
Wedi symud Neuadd y Farchnad gelwid y stryd i gyd yn Broad Street. Yn y llun hwn mae Long Bridge Street a Broad Street yn rhedeg ar ongl ar draws canol y llun.
Mae eglwys newydd Dewi Sant i’w gweld ym mhen ucha’r llun ar y llaw dde. Roedd hon yn eglwys llawer mwy na’r hen eglwys ger yr afon.
 
 

Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Drenewydd

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Drenewydd