Trefaldwyn a'r cylch
yn yr oes Fictoria
  Castell Trefaldwyn o’r Afon Hafren  
 

Mae’r darlun ar y dudalen hon yn dod o engrafiad ar ddur sydd wedi’i lliwio â llaw a gynhyrchwyd gan argraffwr yn 1823, rhyw 14 mlynedd cyn i’r Frenhines Fictoria ddod i’r orsedd.
Ond mae hi’n olygfa ddeniadol iawn ac yn weddol nodweddiadol o’r math o dirweddau gydag ‘adfeilion rhamantus’ oedd yn boblogaidd iawn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

 

Castell
Trefaldwyn o’r
Afon Hafren
1823
Castle from River Severn
 

Y geiriau sydd wedi eu hysgrifennu ar yr engrafiad yw 'Ruins of Montgomery Castle from the Severn', ac mae’n edrych tuag at dref fechan Trefaldwyn o’r afon.
Mae adfeilion yr hen gastell wedi eu gosod ar dir uchel ger canol y llun a gellir gweld twr eglwys blwyf Sant Nicholas o dan y castell.

Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Trefaldwyn