Trefaldwyn a'r cylch
yn yr oes Fictoria
  'Pownd' Trefaldwyn  
 

Ar un adeg, roedd gan bob plwyf ei ‘bownd’ ei hunan. Cae bychan yw hwn a ddefnyddiwyd i gadw ceffylau, gwartheg neu ddefaid oedd wedi crwydro ac yn rhedeg o amgylch yr ardal heb eu ffrwyno.
Mae’r llun a welwch chi yn dangos yr hyn sy’n weddill o’r pownd anifeiliaid ar gyfer Trefaldwyn oedd ar Ffordd Chirbury i’r gogledd ddwyrain o’r dref fechan, ar safle’r Orsaf Dân bresennol.

Roedd ceidwad y pownd yn cael ei benodi gan y plwyf ond nid oedd hon yn swydd boblogaidd !
Gweddillion
Pownd
Trefaldwyn
Montgomery pound
Cafodd powndiau anifeiliaid eu hadeiladu o ddeunyddiau oedd yn rhwydd i’w canfod yn lleol. Roedd y rhan fwyaf o bowndiau yng nghanolbarth Cymru yn cynnwys cae gyda phedair wal gerrig ac un fynedfa. Mae pownd Trefaldwyn a ddangosir yma o’r un math ond roedd yn bosibl eu gwneud â ffensys pren hefyd.
 

Cafodd y pownd â waliau cerrig ei ddymchwel yn yr 1940au, ychydig ar ôl yr ail ryfel byd a lluniwyd gardd goffa ar y safle. Byddai pownd anifeiliaid yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd trwy gydol oes Fictoria, pan fyddai’r mwyafrif o ddulliau cludiant yn dibynnu ar geffylau.
Roedd yn rhaid i berchnogion anifeiliaid oedd yn crwydro dalu i ryddhau eu hanifeiliaid o’r cae oedd â gatiau clo. Yn ogystal, defnyddiwyd y rhain i gadw anifeiliaid oedd wedi’u meddiannu gan yr awdurdod oherwydd dyledion heb eu talu.
Roedd achosion mewn nifer o ardaloedd o bobl yn cael eu cosbi gan y llysoedd am symud eu ceffylau o bownd yr ardal heb dalu. Byddai hyn yn cael ei alw’n ‘poundbreaking’.

Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Trefaldwyn

 

Mae powndiau wedi cael eu defnyddio ym mhob cwr o Brydain ers yr oesoedd canol ond diflannodd y mwyafrif neu cawsant eu hailadeiladu ar gyfer dibenion eraill ar ddechrau’r 1900au.