Trefaldwyn a'r cylch
yn yr oes Fictoria
  Adfeilion Castell Trefaldwyn  
 

Daw’r llun hwn o hen gerdyn post gyda llun o adfeilion Castell Trefaldwyn arno, oedd yn sefyll ar graig uchel yn edrych dros y dref fechan.
Roedd pobl oes Fictoria ac Edward yn hoff iawn o olygfeydd gwyllt a rhamantus fel hon, a byddai ymwelwyr a theithwyr y cyfnod yn mynd i’w gweld yn aml, gan gynnwys y ddwy wraig y gallwch chi eu gweld yma !

 
Adfeilion
Castell
Trefaldwyn
dechrau’r
1900au
Postcard of castle
 

Mae adfeilion y castell hefyd yn cael eu dangos ar y cerdyn post Postcard of castle.cynnar hwn sydd wedi’i liwio â llaw (ar y dde). Cafodd y castell ei adeiladu yn 1223 fel caer amddiffynnol i warchod y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Roedd Dyffryn Hafren yn llwybr amlwg o’r Amwythig i oresgyn bryniau Cymru ac yn wreiddiol tref filwrol (garrison town) oedd y dref. Cafwyd gorchymyn gan y Senedd yn yr ail ganrif ar bymtheg i ddymchwel y castell ar ôl y Rhyfel Cartref.

Yn ôl i ddewislen lluniau o'r Trefaldwyn

 

Byddai cardiau fel y rhain yn cael eu gwneud drwy ddefnyddio brwsys bychain i liwio lluniau du a gwyn gydag inciau lliw.
Roedd lliwiau llawer ysgafnach yn y lluniau hyn nag yn y lluniau lliw go iawn a ddaeth i’r amlwg yn llawer diweddarach.