Machynlleth
Mapiau Fictoriaidd
Llanwrin yn 1903 | ||
Mae’r darn hwn o fap Arolwg Ordnans
sydd wedi ei wneud yn fwy yn dyddio yn ôl i 1903 ac mae’n dangos y pentref
ar ddiwedd teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Os wnewch chi ei gymharu gyda
map 1837 (cliciwch yma i weld) gallwch
weld rhai o’r newidiadau sydd wedi digwydd. |
||
Roedd yna nodweddion newydd yn
y pentref:- Mae P.O. yn dynodi Swyddfa
Bost newydd. Gan fod mwy o bobl yn medru darllen roedd mwy
o deithio, roedd mwy o lythyron yn cael eu hysgrifennu ac roedd hyd
yn oed y cymunedau lleiaf angen Swyddfa Bost. |