Machynlleth
Mapiau Fictoriaidd
  Llanwrin yn 1837
Geirfa
 

Cyfrifiad – y rhifo swyddogol sy’n digwydd er mwyn gweld faint o bobl sy’n byw mewn gwlad ac i ddarganfod ffeithiau pwysig amdanynt, mae cyfrifiad yn cael ei gynnal bob 10 mlynedd yn y wlad hon.
 
 
 

Mae’r darn hwn o fap sydd wedi ei wneud yn fwy yn dyddio o 1837, y flwyddyn y daeth y Frenhines Fictoria i’r orsedd. Cafodd y map ei wneud gan ddynion oedd yn gyfrifol am ddweud faint o dreth yr oedd pob perchennog eiddo yn gorfod talu i’r eglwys. Rhoddwyd rhif i bob ty ac ysgrifennwyd enw’r perchennog mewn llyfr mawr. Mae un nodwedd o ddiddordeb ar y map hwn sef nifer y bythynnod bach a oedd yn y pentref. Dim ond ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach daeth y cyfrifiad ac rydym yn gwybod pwy oedd yn byw yno yn 1841:-

 

2 deiliwr, 2 grydd, 1 glöwr (15 oed), 1 gof (gyda gwraig a 5 o blant), 1 saer olwynion (yn gwneud olwynion cart), 1 cwriwr (staenio croen lledr), 1 siopwr, a llawer un arall oedd yn gweithio ar y ffermydd lleol.
Y tafarnwr oedd Richard Griffiths a’r ficer (a oedd â llond ty o weision) oedd y Parchedig Isaac Bonsall.

Llanwrin yn 1903..

 
 

Ewch yn ôl i ddewislen map Machynlleth
.

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Machynlleth