Machynlleth
Trosedd a chosb
"Clwyfo anghyfreithlon" ym Machynlleth, 1878 | ||
Trywanwyd Rowland Wood oedd yn gigydd lleol, ar y stryd ym Machynlleth ym mis Hydref 1878 gan Gabriel Davies o flaen tyrfa o bobl. Ysgrifennwyd tystiolaeth gan nifer o dystion ar y pryd, ac oherwydd hyn yr ydym yn gwybod beth ddigwyddodd bron i 120 mlynedd yn ôl. Dyma beth
y dywedodd Rowland Wood… Rhedodd tuag at y swn a gwelodd dyrfa o bobl y tu allan i siop. Yn nrws y siop gwelodd Gabriel Davies yn curo rhywun i’r llawr gyda ffon gryf. Aeth Mr Wood yn ei flaen i’w stopio. |
Ar y dudalen nesaf gallwch weld peth o’r dystiolaeth a roddwyd gan Rowland Wood yn yr achops hwn yn 1878… |
||