Machynlleth
Ennill bywoliaeth
Cyfeirlyfr Worrall, 1874 - llechi a cherrig | ||
Roedd y diwydiant
llechi yn bwysig iawn yn ardal Machynlleth am hir cyn ac ar
ôl oes Fictoria. Cyn dyfodiad y rheilffyrdd roedd y llechi o’r chwareli
lleol yn cael eu cludo mewn dramiau oedd yn cael eu tynnu gan geffylau
i’r porthladd ar lan yr afon yn Nerwenlas, gan eu cludo i’w gwerthu dros
y môr. |
Mae’r
cyfenwau’n dod gyntaf ar y rhestrau yma !
|
||
Roedd
galw mawr am seiri meini yn ystod oes
Fictoria, pan roedd angen llawer iawn o waith maen wedi ei naddu â llaw
ar neuaddau tref, cofebau, gorsafoedd rheilffordd, pontydd a llawer o adeiladau
eraill. Mae rhestr 1874 o deilwriaid yn eithaf hir, gyda 18 enw. Roedd hyn yn fwy na thebyg oherwydd cynnydd yn y boblogaeth leol, ond erbyn y dyddiad hwn roedd y gwaith o wneud dillad i bobl leol yn wynebu cystadleuaeth gan ddillad rhatach oedd yn cael eu cynhyrchu mewn ffatrioedd yng ngogledd Lloegr ac yn cael eu cludo ar y rheilffordd. Y rhestr fwyaf a welir yng nghyfeirlyfr Machynlleth yw honno sy’n rhoi enwau ffermwyr llleol. Rhennir y rhestr yn ôl y plwyfi ac mae’n enwi cyfanswm o 284 o ffermwyr ! Doedd dim un yn cael ei restru yn y cyfeirlyfrau masnach cynharaf hyd nes 1868, pan mai dim ond tua 40 oedd yn cael eu henwi. |