Machynlleth
      Ennill bywoliaeth 
| Cyfeirlyfr Worrall, 1874 – Cloc newydd i’r Dref | ||
|  
       Dywedodd y darn ar gyfer Machynlleth yng Nghyfeirlyfr Worrall ar Ogledd Cymru a gyhoeddwyd yn 1874 fod "a new Town Hall and Market is in course of erection" gan sôn am gynlluniau i adeiladu twr cloc ar safle’r hen adeilad...  | 
    
|  
       
  | 
    ![]()  | 
  |
|  
       Mae’r cloc 
        hardd a ddangosir ar y dde ar hen gerdyn post, bellach yn dirnod pwysig 
        yng nghanol Machynlleth. Adeiladwyd y cloc bryd hynny gan fod mab Marcwis 
        Londonderry yn 21 mlwydd oed. Cafwyd cyfraniad at y gost ga 
        boal leol, ac roedd digon ar ôl i dalu am blannu coed yn Stryd Pentrerhedyn. 
         
     | 
  
| Pwrpas 
      cael Neuadd newydd yn y dref y sonnir 
      amdani yng Nghyfeirlyfr 1874 oedd i roi ystafell ymgynnull gyhoeddus yn 
      y dref a hynny i fyny’r grisiau, a neuadd farchnad 
      ar y llawr gwaelod. Roedd injan dân y dref yn cael ei gadw mewn rhan o’r 
      llawr gwaelod am nifer o flynyddoedd.  Cafodd Neuadd y Dref ei dymchwel yn 1968.  | 
    ||