Machynlleth
Trosedd a chosb
Mwy am...
Achos John ac Elisabeth Wood
Geirfa
 

Doedd dim tystiolaeth gan yr awdurdodau yn erbyn Elisabeth a gadawyd iddi fynd yn rhydd. Cyfaddefodd ei gwr i ddau gyhuddiad o ladrata, roedd y llysoedd yn ystyried achos lle byddai gweision yn lladrata oddi wrth eu Meistri yn un difrifol iawn.
Mae’r darn nesaf yn cofnodi’r ddedfryd.

dedfryd – yr hyn y mae’r ynad heddwch yn benderfynu ei wneud gyda’r unigolyn sydd wedi ei gael yn euog
  Quarter Sessions entry
 

Mae’r ysgrifen yn anodd i’w ddeall, ond mae’n darllen:
"Ordered that the prisoner John Wood be transported beyond the seas to such parts as her Majesty with the Advice of her Privy Council shall direct for Seven Years."

Golygai hyn fod John Wood wedi ei alltudio i Awstralia, lle y byddai’n gorfod gweithio fel carcharor am saith mlynedd. Yn fwy na thebyg ni fyddai wedi dychwelyd adref ar ddiwedd y saith mlynedd. Yn fwy na thebyg ni welodd Elisabeth Wood ei gwr byth eto.
.

alltudio – anfon unigolyn o’i wlad ei hun i wlad arall
lladrata – dwyn pethau personol rhywun arall
 
 
 

Ewch i ddewislen trosedd Machynlleth

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Machynlleth