Machynlleth
      Ennill bywoliaeth  
| Cyfeirlyfr Slater, 1858 – Masnachwyr amrywiol |  
       Geirfa 
     | 
  |
|  
       Mae’r dudalen yma yn dangos rhai 
        o’r darnau ar Fachynlleth o Gyfeirlyfr Salter 
        yn 1858 ar Ogledd Cymru.   | 
    Bloneg 
      –  braster sydd ar anifeiliaid  | 
  |
|  
       Mae’r 
        cyfenwau’n dod gyntaf ar y rhestrau yma ! 
     | 
     
       
  | 
    ![]()  | 
  
![]()  | 
  ||
 
      ![]()  | 
    ![]()  | 
  
| Roedd 
      y seiri olwynion a’r cyfrwywyr 
      yn grefftwyr medrus tu hwnt, ac roedd yn rhaid eu cael y dyddiau hynny pan 
      mai ceffylau oedd yn brif fodd o deithio. Roedd y seiri olwynion yn gwneud 
      olwynion pren ar gyfer cerbydau oedd yn cael eu tynnu gan geffylau a hefyd 
      ar gyfer ceirt. Er bod yna gyfrwywyr i’w cael heddiw roedd ganddynt lawer 
      fwy o waith i’w wneud yn ystod oes Fictoria !  Roedd gan y rheini oedd yn rhannu’r gwlân waith pwysig i’w wneud yn y diwydiant gwlanen, y crwynwyr yn y diwydiant lledr, ac roedd y llechi o’r chwareli’n cael eu cludo i’r porthladd yn Derwenlas i’w cludo i ardaloedd eraill. Roedd Canhwyllwyr yn gwneud canhwyllau a sebon rhad o floneg anifeiliaid yn y dyddiau cyn i oleuadau nwy a thrydan gael eu defnyddio.  | 
    ![]()  | 
  |