Machynlleth
Ennill bywoliaeth
Cyfeirlyfr Slater, 1858 – tafarndai a siopau cwrw | ||
Yn ôl pob tebyg roedd yna ddigon o dafarndai hyd yn oed yn nhrefi marchnad lleiaf oes Fictoria. Efallai nad yw’n lawer o syndod fod yr amodau byw gwael a’r gwaith caled oedd yn wynebu’r rhan fwyaf o ddynion oedd yn gweithio yr adeg hynny yn golygu fod llawer ohonynt yn troi at yfed yn weddol drwm. |
Mae’r
cyfenwau’n dod gyntaf ar y rhestrau yma !
|
||
Roedd y rhan fwyaf o dafarndai lleol bryd hynny yn bragu cwrw eu hunain, a byddai’r tafarndai yn arbennig o brysur ar ddiwrnod marchnad pan fyddai pobl yn dod i’r dref o ardaloedd cyfagos – gan ymweld â’r tafarndai fel arfer ! | ||
Roedd y rheini oedd yn "Gwerthu cwrw" hefyd yn cael eu galw’n siopau cwrw, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn adeiladau syml iawn yn debyg iawn i dy preifat, ond fod ganddynt drwydded i werthu alcohol. | ||
Gwaith y Cowper oedd gwneud casgenni pren – gwaith medrus iawn ar gyfer crefftwr. Defnyddiwyd bareli pren tan yn ddiweddar iawn i gludo a chadw cwrw a llawer o hylifau eraill. |