Machynlleth
Ennill bywoliaeth
  Cyfeirlyfr Slater 1858
 

Er bod y Cyfeirlyfrau Masnach cynnar yn rhestru masnachwyr lleol a gwasanaethau yn debyg iawn i’r ‘Yellow Pages’ sydd gennym heddiw, maent hefyd yn cynnwys disgrifiad o’r trefi eu hunain. Roedd y rhan yma yn debyg iawn i deithlyfr, ar wahân i’r ffaith na fyddai rhai o’r llefydd yn hapus iawn gyda rhai o’r sylwadau ! Roedd y Cyfeirlyfrau fel arfer yn cynnwys ardaloedd mawr ac roeddynt yn cael eu cynhyrchu’n breifat, felly roedd y bobl oedd yn mynd o amgylch yn casglu’r wybodaeth hefyd yn ychwanegu eu sylwadau nhw am y trefi !
Mae’r frawddeg gyntaf a welwch chi o Gyfeirlyfr Slater yn 1840 yn cychwyn gyda "The staple [y diwydiant pwysicaf] of Machynlleth is flannel..."

 
Mae’r cyfenwau’n dod gyntaf ar y rhestrau yma ! Cyfeirlyfr Slater,1858
Mae’r darn yma am Fachynlleth sy’n dyddio yn ôl i 1858 yn rhoi crynodeb defnyddiol i ni o brif fusnes yr ardal yr adeg hynny, gan gyfeirio at y diwydiant gwlanen, cloddio a’r melinau malu.
Roedd Derwenlas, sydd tua dwy filltir i’r gorllewin o Fachynlleth, yn borthladd pwysig yn lleol wrth ymyl yr Afon Dyfi oedd yn medru cludo cychod oedd yn pwyso hyd at saith deg tunnell. Mae’n anodd credu heddiw ei fod yn borthladd oedd yn gweithio, gan mai ychydig iawn ohono sydd ar ôl erbyn heddiw ac mae’r Ddyfi yn siltiog iawn yn y rhan yma o’r ardal.
Nid yw’n garedig iawn i ddweud hyn am y dref "has but little to boast in attractive objects", ond dywedodd yr awdur fod yr ardal oddi amgylch i’r dref yn "highly interesting" !
 

Ewch i ddewislen ennill bywoli Machynlleth

Back to top
Ewch i ddewislen Machynlleth