Machynlleth
Trosedd a chosb
  O flaen eich gwell
Geirfa
Llun gan
Rob Davies

Un ffynhonnell wybodaeth bwysig ar gyfer trosedd a chosb ym Mhowys yw cofnodion Sesiynau Chwarter Sir Drefaldwyn.

Roedd y llysoedd hyn yn cael eu cynnal 4 gwaith y flwyddyn (un waith bob chwarter) pan oedd dynion a menywod a oedd wedi eu cyhuddo o droseddu yn dod yno. Fe fyddai rheithgor o ddeuddeg dyn yno yn gwrando ar y dystiolaeth gan benderfynu a oedd yr unigolyn o’u blaen yn euog neu beidio, ac yna byddai’r Ynad Heddwch yn penderfynu ar y gosb pe byddent yn euog. Gan fod y dynion i gyd yn eistedd mewn rhes roeddynt yn cael eu disgrifio yn aml iawn fel eu bod ‘ar y fainc’.

agweddau – y ffordd y mae rhywun yn meddwl am bethau
sefydlu – creu, cychwyn rhywbeth newydd
cyhuddo – dweud bod rhywun wedi gwneud rhywbeth drwg neu anghywir
Rheithgor – 12 o ddynion a oedd yn eistedd yn y llys ac yn penderfynu os oedd yr unigolyn yn euog ai peidio
Ynad Heddwch – dynion oedd wedi derbyn addysg ac yn berchen ar eiddo a oedd yn cynnal busnes y sir i’r Frenhines.
 

Roedd yn rhaid i’r Ynadon ac aelodau’r rheithgor fod yn berchnogion eiddo. Golygai hyn nad oedd y bobl dlawd yn cael bod yn rhan o’r system. Felly hefyd nid oedd menywod yn cael bod ar y fainc pun ai eu bod yn berchen eiddo ai peidio.

Gallwch weld enghreifftiau o achosion a ddaeth o flaen y fainc yn ystod cyfnod Fictoria ar y tudalennau a restrir ar y ddewislen….

 
 
 

Ewch i ddewislen trosedd Machynlleth

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Machynlleth