Machynlleth
Ennill bywoliaeth
Cyfeirlyfr Robson, 1840 | ||
Un o’r cyfeirlyfrau cynharaf i sôn am Fachynlleth oedd Cyfeirlyfr Robson, a ddosbarthwyd yn 1840. Disgrifiwyd y dref fel "A neat well-built town, and preferable in appearance to most in North Wales". Ond nid oedd yr awdur yn rhy hoff o eglwys y plwyf, oherwydd fel ag y mae’r darn gwaelod yn dangos, yr unig beth werth ei nodi oedd fod yr eglwys wedi’i gwyn galchu y tu allan! |
Yn debyg iawn i Gyfeirlyfr 1858, mae’r un yma o 1840 hefyd yn sôn am ddiwydiannau pwysicaf yr ardal – y fasnach gwlanen, cloddio plwm a’r chwareli llechi. | ||
Mae’r rhan yma o ddarn Machynlleth yn rhestru’r 'seddi' yn yr ardal. Y rhain oedd y 'Tai Mawr' ac ystadau lleol yr oedd aelodau pwysig o’r bonedd yn eu perchen yn 1840. Rhoddwyd enw newydd ar Greenfields, eiddo Syr John Edwards AS, sef Plas Machynlleth |
Roedd Capten Charles Thruston yn dirfeddiannwr ac yn ynad, a’r enw ar y ty yr oedd ei deulu yn berchen arno oedd Talgarth Hall yn wreiddiol, ond yn ddiweddarach daeth pawb i’w adnabod fel Plas Talgarth. |
||