Machynlleth
Mapiau Fictoriaidd
  Machynlleth yn 1903
Geirfa
 

1903 map of Machynlleth

Ymerodraeth Brydeinig – gwledydd pell a oedd ar un amser yn cael eu llywodraethu gan Brydain
 
 
 

Mae’r map a welwch chi yn ddarn o fap Arolwg Ordnans 1903 sydd wedi ei wneud yn fwy. Mae’n dangos Machynlleth ar ddiwedd teyrnasiad y Frenhines Fictoria ac mae’n dangos rhai o’r newidiadau a ddigwyddodd yn y dref yn ystod y cyfnod hwnnw. Sylwch ar y datblygiad ar ochr Ogleddol Stryd Maengwyn lle mae ffowndri yn gweithio ar droed Pen yr Allt a lle yr adeiladwyd y capel arall (pennod marchnad). Sylwch hefyd ar Dollty Undeb Machynlleth ar ben Dwyreiniol Stryd Maengwyn. (Darllenwch y tudalennau ar y tlotai os am ragor o wybodaeth).
Yn ogystal â’r Ysgol Genedlaethol yn Heol y Doll mae’r Ysgol Ganol neu Sirol yn cael ei dangos y tu ôl i Stryd Pentrerhedyn wrth ymyl Greenfields.

 
Efallai y newid mwyaf arwyddocaol yw’r newid a welir ym mhen chwith y map lle y mae’r orsaf rheilffordd. Daeth dyfodiad y rheilffyrdd yn yr 1860’au a gwelliant enfawr i gysylltiadau a theithio. Roedd cynnyrch lleol yn gallu cael ei werthu mewn llefydd pell gan helpu’r busnesau lleol a chreu swyddi. Roedd nwyddau o bob rhan o’r Ymerodraeth Brydeinig yn dod i mewn ar y rheilffyrdd ac yn cael eu gwerthu yn y siopau lleol.
 
 

Machynlleth yn 1842
Ewch yn ôl i ddewislen map Machynlleth
.

Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Machynlleth