Machynlleth
Ennill bywoliaeth
  Cyfeirlyfr Slater, 1858 – y boneddigion a’r clerigwyr
Geirfa
 

Marquis of LondonderryY "Bonedd" oedd y bobl gyntaf i’w rhestru yng nghyfeirlyfrau oes Fictoria, ac yna roedd rhestr y clerigwyr. Yng Nghyfeirlyfr Slater 1858, roedd yna nifer go fawr o bobl yn ennill eu lle ymysg yr aelodau breintiedig yma o’r gymuned, gan fod yna 38 o enwau yn ymddangos o dan y pennawd yma.
Mae rhai o’r enghreifftiau yma yn anodd iawn i’w darllen, ond maent yn fwy na 140 mlwydd oed !

Bonedd – pobl bwysig oedd â llawer o bwer ac arian yn y cyfnod hynny. Clerigwyr – gweinidog neu offeiriad Cristnogol
Marcwis Londonderry, cynt Iarll Vane o Blas Machynlleth (edrychwch i weld)
Mae’r cyfenwau’n dod gyntaf ar y rhestrau yma !

Boneddigion a chlerigwyr,1858

Gentry and clergy,1858
Y bonheddwr mwyaf nodedig a welir yma yw Iarll Vane o Blas Machynlleth. Ei deitl llawn oedd Yr Anrhydeddus Syr George Henry Vane-Tempest, etifeddodd y teitl Iarll Vane yn 1854, dim ond pedair blynedd cyn cyhoeddi’r rhestr yma.
Yn 1872 daeth yn bumed Marcwis Londonderry. Mae’r darlun a welir ohono yn ei ddangos flynyddoedd yn ddiweddarach yn ei wisg Dirprwy-Gomodor o’r Sgwadron Cwch Brenhinol.
 

Ewch i ddewislen ennill bywoli Machynlleth

Back to top
Ewch i ddewislen Machynlleth