Llanwrtyd a’r Cylch
yn yr oes Fictoria
  Cwm Irfon ger Llanwrtyd  
 

Roedd trefi ffynhonnau oes Fictoria yn amlwg yn brolio lles meddygol y dyfroedd naturiol yn yr ardal. Ond roedden nhw hefyd yn hysbysebu awyr iach mynyddoedd yr ardal, a’r wlad iachus ac roedd hyn yn atyniad mawr i lowyr a gweithwyr dur a’u teuluoedd oedd yn dod o gymoedd y de lle’r oedd yr awyrgylch yn afiach ac yn ddiwydiannol.
Roedd yr ardal yn cynnig "atyniadau mynyddoedd coediog, nentydd yn sgleinio a dyffrynnoedd coediog", a defnyddiwyd lluniau fel yr esiampl isod er mwyn annog ymwelwyr.

 
Cwm Irfon
ger Llanwrtyd
tua 1900
Irfon Valley
Rev J Kilsby Jones
Roedd y Parch J R Kilsby Jones
yn byw yn Glenview, y ty yn yr olygfa yma.
  Mae’r llun yma yn dod o hen arweinlyfr i drefi ffynhonnau’r Canolbarth ac yn dangos Cwm Irfon i’r gorllewin o Lanwrtyd yn edrych tua Abergwesyn.
Enw’r ty ym mlaen y llun oedd Glenview, cartref y Parch J R Kilsby Jones ar un adeg. Gweinidog enwog yr Eglwys Annibynnol oedd ef. Yn ddiweddarach, rhoddwyd enw newydd ar y ty sef ‘Kilsby’.
.
 
 

Yn ôl i ddewislen lluniau Llanwrtyd
.

RDR