Llanidloes
Y diwydiant gwlân
  Y ffatrioedd newydd  
 

Roedd y melinau pannu (neu pandy) wedi bod yn defnyddio pwer dwr i weithio periannau ers amser hir cyn cyfnod Fictoria, ond bellach roedd y prosesau eraill o gynhyrchu gwlân hefyd yn defnyddio dwr i’w gweithio. Adeiladwyd ffatrïoedd wrth lannau afonydd Hafren a Chlywedog ar gyfer gwaith rhannu a phannu a chyn y diwedd, roeddynt hefyd yn cynnwys gwehyddu er mwyn gwneud y broses gyfan o dan yr un to.

 
 
  Roedd yr 1860au yn flynyddoedd llewyrchus iawn i wneuthurwyr gwlannen yn ardal Llanidloes, wrth i ffatrïoedd newydd gael eu hadeiladu ac wrth i rai o’r siopau gwehyddu gael eu trawsnewid yn ffatrïoedd. Y brodyr Dakin oedd yn berchen ar ac yn rhedeg y ddwy felin y gallwch eu gweld.
Roedd y cymunedau llai fel Cwmbelan a Thylwch oedd â melinau gwlân eu hunain, yn rhan o’r diwydiant yma oedd yn tyfu. Roedd hyd yn oed llefydd anghysbell fel Tylwch yn gallu gwneud defnydd o’r cysylltiadau cludiant gwell a ddaeth yma gyda dyfodiad y rheilffyrdd.
Rhoddwyd injan stêm yn rhai o’r ffatrïoedd er mwyn gwneud yn siwr bod y periannau’n gweithio hyd yn oed pan oedd yr afon yn isel.
.
 
 

Yn ôl i ddewislen y diwydiant Gwlanen