Llanidloes Yn ystod blynyddoedd llewyrchus y
diwydiant gwlannen lleol, roedd pobl yn credu y byddai’r ffatrďoedd newydd
gyda’u periannau gwehyddu yn medru cynhyrchu gwalnnen o ansawdd uchel
a hynny’n rhad. Byddai’r gwlannen yn gallu cael ei werthu i lefydd pell
gan ddefnyddio’r cysylltiadau rheilffordd newydd.
Y
diwydiant gwlân
Diwedd
ar y diwydiant
Daeth hyn i gyd yn wir ond roedd hefyd yn wir am drefi a phrifddinasau
mawr diwydiannol Gogledd Lloegr. Yma,
adeiladwyd ffatrďoedd oedd yn gweithio ar bwer stęm oedd hyd yn oed yn
fwy ac roedd hyd yn oed gwell cysylltiadau rheilffordd a chamlas. Yn fuan
iawn roedd y Gogledd yn cynhyrchu gwlannen oedd hyd yn oed yn rhatach
ac roeddynt yn ei anfon i Gymru!
Brwydro
ymlaen wnaeth y melinau lleol ond roeddynt yn methu â chystadlu. Erbyn diwedd
teyrnasiad Fictoria roedd y diwydiant yn dechrau dirywio.
Mae’r ffotograff modern yma yn dangos ffatri ‘Bridgend’
ger Short Bridge. Adeiladwyd y ffatri yn 1834 trwy ddefnyddio pwer dwr gyda’r
periannau rhannu ar y gwaelod a’r periannau gwehyddu a’r periannau nyddu
uwchben. Yn debyg iawn i felinau lleol eraill difrodwyd y ffatri gan dân
ond dyma’r olaf o felinau
gwlanen Llanidloes i gau.