Llanfair Caereinion
Cludiant
  Cludo nwyddau o amgylch yr ardal  
  Yn ystod oes Fictoria roedd y Post Brenhinol yn dosbarthu llythyron i’ch drws fel ag y maent yn gwneud heddiw, ond nid oeddynt yn cludo nwyddau. Roedd y goets yn aml iawn yn mynd â pharseli bychain am dâl, ond roedd y rhan fwyaf o’r gwaith cludo nwyddau yn cael ei wneud gan gwmnïau lleol fyddai’n cludo nwyddau gan ddosbarthu’r nwyddau yn eu ceirt.
Mae Cyfeirlyfr Pigot yn dweud wrthym pwy oedd y cludwyr lleol o amgylch Llanfair ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria.
 
 
Clydwyr Llanfair yn 1835Dyma’r cludwyr lleol a restrir yn y Cyfeirlyfr ar gyfer yr ardal. Nodwch mai merched oedd dau o’r cludwyr - Anne Davies a Mary Owen. Efallai yr oeddynt yn gyrru’r ceirt eu hunain neu’n llogi gyrrwr i wneud y gwaith iddynt.
Yn ddiweddarach yn ystod cyfnod Fictoria, wrth i’r rheilffyrdd gael eu hadeiladu, roedd y cludwyr yn gallu mynd â’r nwyddau i’r orsaf reilffordd agosaf lle y gellid eu hanfon ar y trên.
 
 

Roedd ffermwyr neu fasnachwyr lleol hefyd yn llogi eu ceirt pan na fyddent yn cael eu defnyddio. Byddai’r bobl dlotaf yn benthyg cart gan berthnasau neu ffrindiau. Pan fyddai’n dod yn amser i symud ty byddai’r teuluoedd tlawd yn casglu’r hyn oedd ganddynt ac yn symud trwy ddefnyddio un cert bach.
Roedd yn rhywbeth digon cyffredin i weld teuluoedd yn y trefi yn cario eu heiddo ar eu pennau trwy’r strydoedd i’w cartrefi newydd.
.

 
  Yn ôl i ddewislen cludiant Llanfair Caereinion