Llandrindod
Ffotograffau Fictoriaidd
  Y parc heb goed  
 

Mae hon yn olygfa ongl lydan hynod iawn yn dangos darlun llwm o Barc y Creigiau yn Llandrindod, credir iddo gael ei dynnu ar ddyddiad mor gynnar â 1876. Cymharwch hwn gyda golygfa debyg a dynnwyd tua 1895 ar dudalen arall !
Y rhes o adeiladau tal ar y dde yw Norton Terrace, y ffordd sy’n arwain i lawr o Barc Crescent a’r Stryd Fawr i Westy’r Rock House. Gallwch weld hwn ychydig y tu draw i’r coed ar law chwith y llun.

 

Parc y
Creigiau
a ‘Norton
Terrace’ yn
1876

Rock Park around 1876
  Yr adeilad agosaf at y camera oedd y ‘Pump House’ gwreiddiol, a oedd newydd ei adeiladu pan dynnwyd y llun yma. Gallwch chi weld llun ohono o’r blaen (wedi i’r coed oedd newydd eu plannu dyfu ychydig bach yn fwy !) mewn hen engrafiad yn y darn 'Yfed y dwr' sydd ar y wefan yma.
Plannwyd llawer iawn o goed newydd a gwahanol fathau o goed tua’r dyddiad yma ym Mharc y Creigiau, heddiw mae yna lawer o goed tal yn y parc cyfan. Ni allwch chi weld Norton Terrace oherwydd y coed, a bellach ni allwch chi weld Gwesty’r ‘Rock House’ gan ei fod newydd ei ddymchwel !

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llandrindod

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod