Llandrindod
Ffotograffau Fictoriaidd
  'Station Crescent'  
 

Mae’r olygfa a welwch chi yma yn edrych i lawr ‘Station Crescent’ gyda gorsaf Reilffordd Llandrindod ar y chwith a thy Meistr yr Part of 1891 mapOrsaf i’r dde.
Yn debyg iawn i rai o’r hen ffotograffau eraill yn y gyfres hon, mae’n dangos cyn lleied o ddatblygu oedd wedi digwydd i’r dref ar ddechrau cyfnod Fictoria. Yn fwy na thebyg tynnwyd yr hen lun yma sy’n edrych braidd yn grychlyd tua 1893.
Mae’r rhan yma o’r map o 1891 a ddangosir yma yn dangos ‘Station Crescent‘ yn gwyro i lawr i’r orsaf tuag at ‘Temple Street’, a’r ty sengl sydd gyferbyn.

 

'Station
Crescent'
1893

Station Crescent
 

Roedd yna giât ar draws y ffordd ychydig uwchben yr orsaf, a ddangosir yn y manylion (dde) a dynnwyd o’r llun a welwch Railway Stationchi yma. Gallwch hefyd weld y clawdd sydd wedi’i thorri mor daclus wrth ymyl y ffordd mewn ffotograff o 1896 o ‘Station Crescent’.

Fe wnaeth y cae agored ar law dde’r llun yma helpu i gadw edrychiad 'gwag' y dref yn y man yma am beth amser, oherwydd ni chafwyd adeiladu yma tan i’r Swyddfa Bost newydd agor ar y safle yn 1937.

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llandrindod

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod