Llandrindod
Ffotograffau Fictoriaidd
  Gwesty Plas Winton  
 

Mae’r hen ffotograff yma wedi dod o gerdyn post oedd yn cael ei werthu i ymwelwyr â Llandrindod ar ddechrau’r 1900au. Gan fod yna geir modur yn y llun yn ogystal â cherbydau’n cael eu tynnu gan geffylau, mae’n rhaid ei fod yn dyddio o flynyddoedd cynharaf yr oes Edwardaidd.
Yr enw ar y sgwâr oedd Plas Winton oherwydd ei fod wrth ymyl y gwesty mawr sydd â’r un enw oedd wrth ymyl y ffordd, allan o’r llun ar chwith. Yr enw ar Westy Plas Winton nawr yw Gwesty’r Commodore.

 


Gwesty
Plas Winton
Llandrindod
1900au

Plas Winton Square
  Yn wreiddiol yr adeilad yn y canol oedd Banc y Gogledd a’r De (bellach Banc HSBC), ac mae pen deheuol Middleton Street ar y dde. Roedd y cerbydau oedd yn cael eu tynnu gan geffylau yn boblogaidd gydag ymwelwyr pan oedd y ffynhonnau’n eu hanterth, ac roeddynt yn cynnig teithiau hamddenol o amgylch y llyn a’r parc.
Yr henoed oedd yn defnyddio’r cerbydau llai i’r anabl, hen bobl oedd yn cael eu denu i Landrindod, a hefyd manteision iechyd y dwr mwynol naturiol.

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llandrindod

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod