Llandrindod
Ffotograffau Fictoriaidd
  Gwesty’r Pump House  
  Mae’r hen gerdyn post a welwch chi yma o Westy’r Pump House yn Llandrindod yn dangos maint rhai o’r gwestai a adeiladwyd i gwrdd â gofynion ymwelwyr â’r dref. Lliwiwyd y cerdyn post â llaw o ffotograff du a gwyn, ac yn fwy na thebyg cafodd ei brintio tua 1900.
Adeiladwyd y gwesty yn 1888 ar safle fferm oedd â’r ty pwmp cynharaf yn y cylch. Gallwch weld rhan o hysbyseb yn dyddio o 1892 ar gyfer y gwesty ar y dde.
Hotel advertisement


Gwesty’r
Ty Pwmp
Llandrindod
tua 1900

  Gallwch weld cornel y baddonau a thy pwmp newydd oedd yn eiddo i’r gwesty ar ymyl y llun ar y dde. Y darn yma yw’r unig ran o’r adeilad sydd dal ar ôl heddiw.
Bandstand oedd y ‘babell’ sydd o flaen y gwesty. Mae yna lun arall o’r gwesty yma pan oedd ar ei anterth yn y darn ar 'Yfed y dwr' sydd yn ein gwefan.

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llandrindod

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod