Llandrindod
Ffotograffau Fictoriaidd
  Yr olygfa o Barc y Creigiau, 1895  
 

Mae hon yn olygfa banoramig anarferol o lydan o ran o dref Llandrindod a welir o Barc y Creigiau tua 1895.
Mae ‘Norton Terrace’ ar y chwith ac mae ‘Park Terrace’ yn rhedeg o ganol y llun i ffwrdd i’r dde.

 

Llandrindod
o Barc y
Creigiau
1895

Rock Park
 

Yr adeilad gyda’r twr yn y canol i’r chwith o dwr yr eglwys oedd Gwesty’r Gwalia gwreiddiol, oedd gyferbyn â’r fynedfa i Barc y Creigiau. Roedd yn cael ei hysbysebu fel "Home from home" gyda "spacious and lofty rooms, Billiards, Smoking, and News rooms, Hair Dressing and Shaving Saloon", a hyd yn oed "Lending Library on the premises" !
Roedd hwn yn lleoliad delfrydol ar gyfer gwesty ar amser pan oedd nifer fawr o ymwelwyr yn dod i’r ffynhonnau bob haf i 'yfed y dwr' yn y parc.
Agorwyd y gwesty cyntaf yma, y gallwch ei weld ar y dde, tua 1870.

Agorwyd Gwesty newydd y Gwalia yn 1900 gyferbyn â’r un cynharaf. Mae gwaith ar y wefan hon yn digwydd yn adeilad 'newydd' y Gwalia, ond nid ydynt yn darparu "room service" cystal y dyddiau yma !

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llandrindod

 

Gwesty cyntaf y Gwalia o hysbyseb
tua 1890.
Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod