Llandrindod
Ffotograffau Fictoriaidd
Storfa Beiciau Tom Norton | |||
Mae’r ffotograff yma yn dangos busnes
beiciau yn Llandrindod a agorwyd gan Tom Norton yn 1899.
Cafodd ei leoli yn y Neuadd Farchnad yn y Stryd
Fawr. |
|
Storfa
Beiciau
Tom Norton Llandrindod yn 1899 |
||
|
Mae
Stryd Fawr Llandrindod i’r gorllewin
o’r hyn sydd bellach yn rhan brysuraf y dref, sef Middleton
Street a Temple Street. Mae llinell y rheilffordd yn gwahanu’r
strydoedd hyn o’r Stryd Fawr, sydd bellach yn ardal llawer tawelwch. Roedd pobl oes Fictoria’n hoff iawn o seiclo, ac roedd yna lawer o wahanol siapiau a meintiau o beiriannau oedd yn cael eu gweithio â phedalau ar y farchnad, gan gynnwys beiciau â thair o olwynion mawr. Yn ddiweddarach agorodd Tom Norton fusnes moduron mawr yn Temple Street, ac yn yr 1920au a 1930au roedd yn gwerthu beiciau, ceir modur, a hyd yn oed awyrennau o’r Automobile Palace enwog. Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llandrindod
|
||