Llandrindod
Ffotograffau Fictoriaidd
Bwydo’r ymwelwyr llwglyd | ||
Dyma ffotograff o un o’r siopau yn
y Stryd Fawr, Llandrindod, pan mai
dyma oedd canolfan fusnes y dref. |
Strwd
Fawr
Llandrindod tua 1899 |
Mae’n
debygol iawn y byddai’r siop hon yn cyflenwi llawer o westai
a thai lletya yn y dref gydag archebion
eithaf mawr yn ystod tymor yr haf. Ymddengys fod ganddynt fwy mewn stoc
na llawer o archfarchnadoedd modern, ond roedd yna lawer
o ymwelwyr yn y dref oedd eisiau mwy na dim ond y dwr mwynol
! Byddai’r ffordd yr oedd darnau o gig ac amrywiaeth o ddofednod yn cael eu hongian er mwyn eu dangos wrth ymyl y ffordd yn siwr o achosi i’r archwilwyr bwydydd fynd draw yn ddigon buan y dyddiau hyn ! Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llandrindod
|
||