Llandrindod
Ffotograffau Fictoriaidd
  Gwesty’r Bridge – a’u gwesteion  
 

Tynnwyd y ffotograff yma yn fwy na thebyg yng nghanol yr 1890au o flaen Gwesty’r Bridge yn Temple Street, Llandrindod. Mae’n ymddangos bod y llythyren 'B' o’r arwydd ar gyfer y gwesty wedi mynd ar goll pan gafodd y llun ei dynnu, felly mae’n edrych mwy fel "Ridge Hotel" !
Y tro cyntaf i’r gwesty gael ei agor yn 1872 cafodd ei enwi fel ‘Coleman's Hotel’, yn ddiweddarach cafodd ei ail enwi fel ‘Bridge Hotel’, a bellach yr enw yw Gwesty’r Metropole.

 
Gwesty'r Bridge
Llandrindod
1895au
Bridge Hotel
Portion of 1891 map
  Yn fwy na thebyg perchnogion Gwesty’r Bridge wnaeth y trefniant gyda ffotograffydd lleol dynnu llun o’r grwp yma o drigolion lleol gyda’r gwesty yn y cefndir.
Gellir gweld y gwesty yng nghanol y rhan yma o fap yr ardal fel ag yr oedd yn 1891.
Bryd hynny sylwch fod yna fan agored llawer iawn yn fwy gyferbyn â Gwesty’r Bridge (bellach y Metropole), gyda thir agored rhwng yr adeilad ac Eglwys yr Holy Trinity.

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llandrindod

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod