Llandrindod
Ffotograffau Fictoriaidd
  Y Stryd Fawr  
  Mae’r ffotograff yma yn dangos Stryd Fawr, Llandrindod, ac yn fwy na thebyg cafodd ei dynnu tua 1900 ar ddiwedd cyfnod Fictoria.
Yr adeilad deniadol sydd agosaf at y camera yw 'Clovelly', mae’r adeilad yma hyd heddiw ond yn anffodus mae llawer iawn o’r siopau ar gau.
Roedd y balconi addurniadol a’r pileri o haearn gyr yn nodweddiadol o’r nodweddion Fictoraidd yn y dref.
Wrought ironwork


y Stryd Fawr
Llandrindod
au1900

High Street, Llandrindod
  Yn wreiddiol, y Stryd Fawr oedd rhan bwysicaf y dref, gan ei bod yn agos at yr orsaf reilffordd. Yn yr olygfa hon mae llinell y rheilffordd ychydig y tu allan i’r llun i’r dde, hefyd mae’r orsaf i lawr y Stryd Fawr i’r dde.
Yn ystod y 1870au roedd y tir ar ochr ddwyreiniol y rheilffordd yn araf iawn yn cael ei ddatblygu, ac erbyn y 1880s roedd y rhan fwyaf o fywyd y dref yn digwydd ar Middleton Street a Temple Street.

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llandrindod

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod