Llandrindod
Ffotograffau Fictoriaidd
Y neuadd farchnad | ||
Nid yw’r hen ffotograff yma’n un
da iawn, ond cafodd ei dynnu yn fwy na thebyg flynyddoedd mawr yn ôl.
Mae’n dangos y Neuadd Farchnad
yn y Stryd Fawr, Llandrindod, a adeiladwyd
yn 1872, felly efallai fod y llun
yn dyddio o amser yn fuan wedi hyn. |
Y Neuadd |
Mae
un o’n tudalennau ar gyfer Llandrindod sef 'Yfed y
dwr' ar y wefan yma yn sôn bod sioeau’n cael eu cynnal yn yr adeilad
yn yr 1890au. Dywedodd llawlyfr i ymwelwyr yn 1896 - "A convenient Market Hall, with an Assembly Room overhead, capable of seating about six hundred persons, was erected here in 1872. Concerts and Entertainments are frequently held here during the Season, and the visitor here need never get morose for the want of entertainment". Fe wnaeth y Neuadd Farchnad barhau tan 1957, pan cafodd ei dinistrio gan dân ofnadwy. Adeiladwyd yr adeilad mwyaf hyll (yn fwy na thebyg) ar y safle, ac yn anffodus mae hwnnw yno o hyd ! Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llandrindod
|
||