Llandrindod
Ffotograffau Fictoriaidd
  Mynd am dro yn ‘Temple Gardens’  
 

Mae’r olygfa a welwch yn y ffotograff yma o Landrindod, yn edrych o ‘Spa Road’ ar draws ‘Temple Gardens‘ tuag at Temple Street. Mae’r ddwy ferch sydd yng nghanol y llun yn croesi ‘Lindens Walk’.
Mae’r tai a’r gwestai sydd ar y chwith yn ‘South Crescent’, a’r adeilad ar y dde oedd y Gwesty’r Bridge, sydd bellach yn cael ei alw’n Metropole, mae’r gwesty yma hefyd i’w weld ar dudalen arall yn y gyfres hon.

 

Temple
Gardens,
Llandrindod
1890au

Temple Gardens
  Lawntiau croquet a chyrtiau tennis oedd yn ‘Temple Gardens’ am flynyddoedd lawer. Roedd y chwaraeon hyn yn boblogaidd gyda llawer o ymwelwyr oedd yn sefyll yn y gwestai gerllaw.
Roedd Gwesty Brynawel (bellach y Glen Usk) a Gwesty’r Lansdowne yn ‘South Crescent’, ac roedd Gwesty Plas Winton (bellach y Commodore) tu cefn i’r ffotograffwyr yn yr olygfa yma.
Mae’r darlun yma yn rhoi syniad da i ni o naws ffasiynol y dref ar ddiwedd cyfnod Fictoria.

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llandrindod

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod