Llandrindod
Ffotograffau Fictoriaidd
  Emporiwm Canolbarth Cymru  
 

Roedd gan Llandrindod yn oes Fictoria 'siop adrannol' oedd yn darparu amrywiaeth hynod o eang o nwyddau a gwasanaethau i ymwelwyr. Dyma Emporiwm Canolbarth Cymru, oedd un o’r nifer o fuddsoddiadau costus gan bobl fentrus oedd â ffydd y byddai’r dref newydd yn llwyddiant. Tyfodd y busnes o siop fach a agorwyd gyntaf ym Mhenybont yn 1799.

 

Emporiwm
Canolbarth
Cymru
1890au

Central Wales Emporium
  Honnodd hysbyseb o 1892 fod "The Emporium comprises a very handsome and imposing block of buildings...and here a very large business in Millinery, Dressmaking, Tailoring, Carpets, and Family Drapery is carried on. Mr Thomas constantly visits the manufacturing centres, and the best and latest products of Lancashire and Yorkshire looms, as well as the latest fashions, very soon find their way to this Emporium".
Yn yr adeilad roedd yna gaffi ac ystafelloedd te, a hyd yn oed ystafelloedd lletya i ymwelwyr. Mae’n sefyll ar gyffordd Temple Street a Station Crescent, ond bellach heddiw mae yna nifer o wahanol siopau ar lefel y stryd.

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llandrindod

 

Dywedodd papur a gyhoeddwyd yn 1887
"Who would expect to find in a remote Welsh Spa, an Emporium where the finest manufactures and the latest fashions may be obtained, in some respects more readily than even in
London ?"
Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod