Llandrindod
Ffotograffau Fictoriaidd
Taith mewn coets yn Llandrindod | ||
Tynnwyd yr hen ffotograff diddorol
yma o goets a dynnir gan geffyl yn aros i adael gyda llond cert o deithwyr
yn ‘Park Terrace’, Llandrindod. |
Coets yn |
Nid
ydym yn siwr iawn beth oedd dyddiad y llun yma, ond yn fwy na thebyg cafodd
ei dynnu yn yr 1880s. Roedd teithiau
mewn coets o amgylch y llyn hwylio ac atyniadau eraill yn boblogaidd am
flynyddoedd lawer. Roedd pob un o westai mawr y dref hefyd yn darparu gwasanaeth coets i gwrdd â threnau oedd yn cyrraedd er mwyn casglu eu gwesteion newydd. Yn aml iawn byddai blaen yr orsaf reilffordd yn llawn o gerbydau a cheirt i gludo bagiau o’r amrywiol westai. Mae’n bosibl fod y teithwyr a welwch chi yma ar eu ffordd i’r orsaf wedi iddynt fod yn aros yn y dref, gan fod llawer o’r tai yn ‘Park Terrace’ yn darparu llety i ymwelwyr. Roeddynt yn edrych dros Barc y Creigiau a roeddynt yn agos iawn at y ffynhonnau mwynol. Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llandrindod
|
||