Llandrindod
Ffotograffau Fictoriaidd
  Mannau agored Llandrindod  
 

Dangosir ffotograff arall yma a dynnwyd yn ystod y blynyddoedd yr oedd Llandrindod yn tyfu’n gyflym iawn. Cafodd ei dynnu yn fwy na thebyg ar ddechrau’r 1890au, ac mae’n ein hatgoffa o’r ffaith fod y dref wedi’i chreu yng nghanol tir comin agored a llwm.
Mae’r llun yn edrych tua’r de orllewin tuag at y Ridgebourne, ar y ffordd i Lanfair-ym-Muallt. Y briffordd o flaen yr adeiladau mawr yw pen gorllewinol Temple Street, a heddiw mae tai’r ‘Western Promenade’ yn sefyll ar yr ochr yma iddo. Mae llawer o’r tir comin sydd ar ôl bellach yn goetir.

 

Temple Street
Llandrindod
1890au

  Yr adeilad sydd ymhellach i’r pellter i’r dde o’r ddwy res fawr o dai yw Ysgol Sirol Llandrindod yn Ffordd Alexandra. Dyma’r ysgol ganolradd neu uwchradd gyntaf yn yr ardal, a dim ond yn ddiweddar y cafodd yr ysgol ei dymchwel.
O’r comin ar un o’n tudalennau 'Yfed y dwr' mae yna olygfa debyg o ran o’r dref newydd. Nid yw’r ardal i’r dde mor wag bellach ag yr oedd pan dynnwyd y llun yma !

Yn ôl i ddewislen ffotograffau Llandrindod

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod