Y Gelli a Dyffryn Gwy
Trosedd a chosb
  Dwyn bwyell a bilwg  
 

Mae’r enghraifft yma o achos llys yn Y Gelli yng nghyfnod Fictoria yn sôn am ddwyn dau declyn llaw cyffredin iawn – bwyell a bilwg – yn Ebrill 1878.
Roedd y taclau wedi diflannu o Westy’r Swan, yn Church Street, Y Gelli, ac fe welwch ddarn bach o un o ddogfennau’r Sesiynau Chwarter yma...

 
  Part of court paper
"...one Iron axe and one Bill hook the goods and chattels [mae hyn yn golygu yn perthyn i] of one John Howells, feloniously did steal take and carry away..."
Y person oedd yn cael ei gyhuddo o ddwyn y taclau oedd William Magness, ac mae papur llys arall yn dangos ei fod wedi’i gael yn euog o ladrata o’r blaen yn 1865.
John Howells oedd tafarnwr Gwesty’r Swan, a dyma ran o’i ddatganiad ef yn y llys...
Part of court paper  
 

"I am an Innkeeper and Farmer and live in Hay. On Tuesday last the 23rd April I was told by my servant George Price that he had missed an axe and hacker from the Stable"...
Chwiliodd gwas y gwesty ond ni allodd ddarganfod y taclau coll, ond roedd gan y tafarnwr syniad pwy allai fod wedi’u dwyn, fel y gwelwch ar y dudalen nesaf...

Y gwas yng Ngwesty’r Swan...

 

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli