Y Gelli a Dyffryn Gwy
Trosedd a chosb
  Ar goll o’r stabl yn y Swan  
Witness heading

Roedd George Price yn gweithio i’r tafarnwr yng Ngwesty’r Swan, a rhoddodd dystiolaeth yn y llys am y fwyell a’r bilwg neu’r haciwr oedd ar goll.
Gan gyfeirio at yr eitemau hyn dywedodd "I know them from having previously used them. I last used them on Saturday the 20th instant and put them in the Stable at the Swan Hotel after I had finished using them. This was between 1 and 2 o'clock in the afternoon. I saw them again at 9 o'clock at night. They were then in the Stable where I had left them".
Aeth ei ddatganiad ymlaen i sôn am William Magness a oedd yn cael ei gyhuddo o ddwyn y taclau oedd ar goll...

Drawing of tools
  Quarter Sessions paper
Fe welwch Westy’r Swan, Y Gelli yn y llun. Ond doedd y ceir ddim yno yn 1878 !

"The Prisoner William Magness was employed on that day sweeping the yard at the Hotel. I missed the Axe and Hacker on Monday. They were not then in the Stable where I had left them. I searched for same but did not find them. I told my master that they had been lost on the following day".
................................................................. .George Price

Mae’n edrych yn debyg mai cael ei gyflogi nawr ac yn y man roedd William Magness yng Ngwesty’r Swan, a’i fod yn cael ei amau’n fuan ar ôl i’r taclau ddiflannu.
Tyst arall oedd pobydd lleol o Broad Street yn Y Gelli.
I beth fyddai pobydd eisiau bwyell ? Oedd ei fara wedi sychu ? Ewch i’r dudalen nesaf i gael gwybod mwy...

Y pobydd o Broad Street...

 

Swan Hotel in 1999
 
Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli