Y Gelli a Dyffryn Gwy
Ennill bywoliaeth
  Masnachwyr lleol: ‘turners to miscellaneous’
turnwyr i bethau eraill
 
Cofiwch!
Y cyfenw sy'n dod gyntaf
.

extract from  Mae’r rhan olaf yma o Gyfeirlyfr Pigot o fasnachwyr lleol yn dangos crefftwyr medrus lleol, crefftau nad ydynt bellach mor bwysig ag yr oeddynt yn ystod oes Fictoria.

Gwaith y turniwr oedd turnio coed i wneud coesau byrddau a chadeiriau ar ei ledd. Roedd yn waith medrus iawn, gallwch chi weld cannoedd o gadeiriau a byrddau a desgiau o’r cyfnod yma heddiw. Byddai turniwr oes Fictoria yn gyrru ei ledd gyda’i droed yn gwasgu i lawr ar lifar oedd yn troi’r pren. Pan fyddai’n codi ei droed oddi ar y lifar byddai’r pren yn troi i’r cyfeiriad arall.

  Yn ystod oes Fictoria roedd ceffylau’n bwysig iawn o hyd fel modd o gludiant, felly roedd y gwneuthurwr olwynion yn bwysig iawn o hyd. Roedd yn grefft oedd angen llawer o sgil er mwyn gwneud olwynion ar gyfer cerbydau a wagenni o bob maint allan o bren, gan roi teiars haearn solet wrthynt. Os nad oedd yr olwyn yn hollol grwn byddai’r cert neu’r cerbyd yn bownsio o amgylch, felly roedd yn rhaid i’r gwneuthurwr olwynion wybod ei waith.  
 

Yn ôl i ddewislen ennill bywoli Y Gelli

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli