Y
Gelli a Dyffryn Gwy
Ennill bywoliaeth
Pobl alwedigaethol yn ardal Y Gelli yn 1835 | ||
Yn ogystal â bonedd a masnachwyr roedd Cyfeirlyfr Pigot yn rhestru dynion fyddai’n cael eu hystyried yn bobl broffesiynol heddiw. Roeddynt yn gorfod gweithio i ennill bywoliaeth, ond roeddynt yn ddynion oedd wedi cael addysg. |
||
PWYSIG !
Sylwch mai dynion |
Yma gwelwn y cyfreithwyr neu’r twrneiod oedd wedi eu haddysgu yn y gyfraith, yr arwerthwyr oedd yn delio â gwerthu anifeiliaid ac eiddo, a’r llawfeddygon oedd yn gofalu am iechyd pobl leol ac yn codi ffi am eu gwaith. Byddai pob un o’r dynion hyn yn cyflogi clercod oedd yn gobeithio bod yn ddynion proffesiynol eu hunain rhyw ddiwrnod. Yn wahanol i heddiw ychydig iawn o ferched oedd yn gwneud gwaith swyddfa. Mae’r llun ar y dde yn dangos llun o glerc yn mwynhau ei hun y tu allan i oriau gwaith, allan o’r cylchgrawn Punch yn yr 1840au. |
||
Yn ystod dyddiau cynnar oes Fictoria roedd rôl y llawfeddyg yn newid. Cyn hyn, nid oedd llawfeddyg wedi cael llawer iawn o hyfforddiant,ond roedd yn gallu tynnu dannedd, ac ail-osod breichiau neu goesau oedd wedi torri. Yn nes ymlaen yn nheyrnasiad Fictoria byddai meddygon yn derbyn llawer mwy o hyfforddiant, a byddai’r llawfeddyg yn ddoctor fyddai wedi derbyn hyfforddiant arbennig mewn triniaeth lawfeddygol. |