Y Gelli a Dyffryn Gwy
Trosedd a chosb
  Chwe mis o lafur caled  
 

Cyfrol fawr wedi’i rhwymo mewn lledr oedd y Llyfr Gorchymyn (gweler ar y dde), ac ynddo cofnodwyd mewn inc bob penderfyniad a wnaethpwyd gan bob un o Sesiynau Chwarter y Sir.
Materion cyffredin oedd llawer o’r rhain fel talu biliau am ffyrdd a phontydd, ond roeddynt hefyd yn cofnodi dedfrydau mewn achosion oedd yn dod o flaen yr Ustusiaid.
Dyma beth ysgrifennwyd ynddo o Sesiynau Canol Haf 1878 Brycheiniog, ynglyn â’r achos yn erbyn William Magness...

Bound Order Book
  Entry in Order Book
 

"The Queen on the prosecution of John Howells v William Magness. Larceny. A bill of indictment having been preferred and found against William Magness for stealing a Bill Hook and he having pleaded not guilty a verdict of guilty was returned returned by the Petty Jury. Ordered that the said William Magness be imprisoned in the House of Correction at Brecon for six calendar months with hard labour. Prosecutors costs allowed."

Yr hyn a olyga "A bill of indictment having been preferred and found" yw fod y cyhuddiad yn ei erbyn yn un cywir. Roedd Y rhain wedi’u nodi fel "Gwir Achos" ar y dogfennau gwreiddiol.
Yr unig declyn y mae sôn amdano yn y Llyfr Gorchymyn yw’r bilwg.
Beth ddigwyddodd i’r fwyell, tybed ? Cael ergyd farwol efallai ? Anfonwyd William Magness i garchar am chwe mis gyda llafur caled (ac roedd yn galed yn amser Fictoria !) am "fenthyca" dau declyn llaw "of the value of six shillings and sixpence" !

Yn ôl i ddewislen trosedd Y Gelli

 

True bill
Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli