Y Gelli a Dyffryn Gwy
Mapiau Fictoriaidd
  Llyswen yn 1887  
 

Isod mae rhan o fap graddfa fawr yn seiliedig ar fap Arolwg Ordnans a luniwyd ar y raddfa o 25 modfedd i 1 filltir. Wrth ei gymharu â’r map o Lyswen yn 1840 gwelwn nad oes llawer o newid wedi digwydd yn y pentref, er bod y map yn dangos mwy hyd yn oed o berllannau. Mae tir isel y dyffryn yn gysgodol ac yn ffrwythlon, ac yn gallu cynnal perllannau a fyddai wedi’i chael hi dipyn mwy anodd i lwyddo ar dir uwch..

 

  1 Y ty mawr newydd yw’r rheithordy newydd ar gyfer y rheithor lleol neu’r ficer. Yn 1840 stribedi agored o dir comin oedd y tir yma, ond fel y Cae Comin mawr ar y top ar y dde, cafodd ei gau i mewn.  
  2 Mae tafarn y Royal Oak wedi agor i fusnes! Grwp o dri bwthyn oedd yma yn 1840.  
  3 Y Griffin Inn. Yn y dyddiau cyn bod ceir roedd teithio yn cymryd llawer mwy o amser, ac felly roedd angen Tafarnau er mwyn i deithwyr fedru aros ynddynt. Roedd y Griffin Inn yng nghanol y pentref yn 1840 hefyd, yn union fel heddiw!  
  Cymharwch â Llyswen tua 1840..  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Y Gelli

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli