Y
Gelli a Dyffryn Gwy
Mapiau Fictoriaidd
Llyswen tua 1840 | ||
Mae’r map isod wedi’i seilio ar fap y Degwm yn gynnar yn oes Fictoria. Mae’n rhoi inni ddarlun o’r gymdeithas fel yr oedd yn y cyfnod hwnnw. Cae Comin yw’r enw a roddir ar y cae agored mawr a welir ym mhen ucha’r map ar y dde. Defnyddiwyd system o rannu’r tir hwn mewn lleiniau cul. Roeddynt yn gwneud hyn yn y Canol Oesoedd, a pheth anghyffredin iawn oedd gweld y dull yma’n dal i gael ei ddefnyddio yn y cyfnod hwn. I gael mwy o wybodaeth am hyn ewch i’r tudalennau yn dwyn yr enw Cae Comin. |
||
MAPIAU’R DEGWM Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bawb bron dalu degwm i Eglwys Loegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm i fod yn dreth ar eich eiddo. Lluniwyd mapiau i ddangos pa eiddo oedd gan bawb |
The
Mae’n bur debyg nad oedd y pentref ei hun wedi newid llawer ers y 18fed
ganrif. Gallwch weld ar unwaith ei fod wedi tyfu lle’r oedd dwy
ffordd bwysig yn cwrdd. Yn mynd o’r top ar y chwith i’r gwaelod ar y dde mae ffordd Dyffryn Gwy o Lanfair ym Muallt i lawr i Loegr, gyda ffordd yn troi i ffwrdd am Dalgarth a De Ddwyrain Cymru. Yn troi i ffwrdd o hon yng nghanol y pentref mae’r ffordd dros y mynydd i Ddyffryn Wysg ac Aberhonddu. Dim ond ychydig oddi ar y map mae’r man croesi’r afon dros Bont Bochrwyd. |
||
1 Arferai’r adeilad mawr lle mae tafarn y Royal Oak heddiw fod yn dri bwthyn a gerddi ar ddechrau cyfnod Fictoria. | ||
2
Yn union ar ffin y plwyf mae Capel y Methodistiaid
Calfinaidd. Yma roedd y Methodistiaid lleol yn gallu addoli yn
eu ffordd eu hunain ac yn gallu dewis eu gweinidogion eu hunain. Ond roeddynt
yn dal i orfod talu’r degwm i Eglwys Loegr. Sut ydych chi’n meddwl roedden nhw’n teimlo yngly*n â hynny? |
Cymharwch â Llyswen yn 1887.. | ||