Y Gelli a Dyffryn Gwy
Mapiau Fictoriaidd
  Llowes tua 1900  
 

Mae’r llun isod wedi’i seilio ar fap Arolwg Ordnans graddfa fawr o gwmpas diwedd teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Wrth ei gymharu â map o’r pentref yn 1840 gallwn weld nad oes llawer o bethau wedi newid ar y map, er bod yna newidiadau ym mywydau’r bobl.

 

Llowes around 1900
  Mae’r ysgol yn Llowes yn dal ar agor (ar ochr y ffordd ger mynwent yr Eglwys) ond erbyn hyn mae plant y plwyf i gyd yn mynd iddi, ac yn cael y cyfle i dderbyn addysg.  
  Mae’r Swyddfa Bost wedi’i nodi ar y map (P.O.) ger mynwent yr Eglwys. Erbyn diwedd oes Fictoria roedd llawer mwy o bobl yr ardal yn gallu ysgrifennu, ac fel roedd aelodau teuluoedd yn symud i ffwrdd i chwilio am waith, daeth ysgrifennu llythyrau’n fwy pwysig.  
 

Ar ddiwedd yr 1890au William Pritchard oedd landlord y Radnor Arms, a siopwr y pentref oedd Septimus Bowen. Roedd hefyd yn grydd. Mewn ardaloedd gwledig lle’r oedd y boblogaeth yn fach, byddai crefftwyr yn gwneud dwy swydd yn aml er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd..

 
  Cymharwch â Llowes tua 1840..  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Y Gelli

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli