Y Gelli a Dyffryn Gwy
Mapiau Fictoriaidd
  Llowes tua 1840  
 

Mae’r llun isod wedi’i seilio ar fap y degwm o blwyf Llowes. Mae’n dangos yr ardal o gwmpas y pentref ac yn rhoi syniad i ni o’r gymdogaeth yn ystod blynyddoedd cyntaf teyrnasiad Fictoria.

 

MAPIAU’R DEGWM
Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bawb bron dalu degwm i Eglwys Loegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm i fod yn dreth ar eich eiddo. Lluniwyd mapiau i ddangos pa eiddo oedd gan bawb
Llowes around 1840
  Y ffordd sy’n rhedeg o’r gwaelod ar y chwith i’r top ar y dde yw’r ffordd sy’n arwain i Loegr ar hyd ochr Sir Faesyfed o Ddyffryn Gwy. Y tir a welwch yma yw’r tir mwy ffrwythlon sydd i’w gael ar waelod y dyffryn. Y ffyrdd bach sy’n mynd i’r top ar ochr chwith y map yw’r ffyrdd sy’n arwain i diroedd uchel y plwyf.  
  Mae’r Radnor Arms wedi bod yn dafarn bwysig iawn yn ymyl y ffordd ers amser maith. Yn y dyddiau pan oedd pobl yn dibynnu ar geffylau i deithio, roedd tafarnau yn paratoi bwyd a llety ar gyfer teithwyr. Yn y cyfnod hwn landlord y Radnor Arms oedd Thomas Pritchard, a pherchennog tir mwya’r plwyf oedd Thomas Mynors Baskerville, Clyro Court. Roedd Llowes Court yn perthyn i Walter De Winton, Maesllwch, perchennog tir pwysig arall yn yr ardal, ac roedd ei denant, Evan Williams, yn byw yno.  
 

At Yn ystod y cyfnod hwn roedd llawer o fasnachwyr yn byw yn y plwyf, yn cynnwys: 3 crydd, 3 saer maen, 6 llifiwr coed, 7 saer olwynion, teiliwr, melinydd, ysgolfeistr a holltwr coed.
Thomas Jones oedd enw’r holltwr coed a’i waith oedd hollti coed yn ddarnau hir, fflat. Roeddynt yn cael eu defnyddio i adeiladu bythynnod pren. Roedd yn bosib eu gwau i’r bylchau yn y ffrâm bren ac yna plastro drostynt. Mae’r llun yn dangos hen dafarn y Three Tuns yn Y Gelli, a gallwch weld y coed hir a elwir yn ‘dellt’ neu ‘delltenau’ yn ffrâm bren yr adeilad.
.

Ffotograff gan caniatad
Mr Eric Pugh.
  Cymharwch â Llowes tua 1900..  
 

Yn ôl i ddewislen mapiau Y Gelli

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli