Y Gelli a Dyffryn Gwy
Graffiau poblogaeth
  Ffigurau cyfrifiad plwyf Y Clas-ar-Wy  
 

 
  Yr union ffigurau cyfrifiad a gofnodwyd oedd:-  
  Yn y flwyddyn 1841 - 838 o bobl
Yn y flwyddyn 1851 - 816
In tYn y flwyd 1861 - 564
Yn y flwyddyn 1871 - 551
Yn y flwyddyn 1881 - 567
Yn y flwyddyn 1891 - 488
Yn y flwyddyn 1901 - 460
 
 

Newidiodd ffiniau plwyf Y Clas-ar-wy yn nyddiau cynnar oes Fictoria, ac o’r herwydd roedd y plwyf yn llai. Golygai hyn nad oedd cymaint â hynny o ostyngiad yn y boblogaeth rhwng cyfrifiad 1851 a chyfrifiad 1861. Am ochr Maesyfed o’r afon yn unig mae’r ffigyrau uchod.

Yn ystod oes Fictoria roedd Y Clas-ar-wy yn ardal wledig iawn, gyda’r bobl yn gwneud rhyw waith neu’i gilydd ar y tir. Stad Maesllwch oedd perchennog rhannau mawr iawn o’r plwyf, ac roedd ganddi ddylanwad mawr dros fywydau’r bobl gyffredin. Roedd yr adroddiad ar gyfrifiad 1851 yn dweud mai’r rheswm mwyaf am y gostyngiad yn y boblogaeth oedd fod llawer o weithwyr a’u teuluoedd wedi symud i ardaloedd y pyllau glo yn Sir Forgannwg a Sir Fynwy i chwilio am waith.

Cymharwch y graff yma gyda graffiau cymunedau eraill yr ardal.
A yw’r newidiadau mewn poblogaeth yn wahanol?
Os oes yna wahaniaethau, beth yw’r rhain?

 
 

Yn ôl i ddewislen poblogaeth Y Gelli

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli