Cofiwch!
Y cyfenw sy'n dod gyntaf. |
Dyma
restr o bawb yn ardal Y Gelli oedd eisiau i’w henwau gael eu rhestru yn
1835. Perchnogion eiddo’r ardal yw y rhain yn ystod blynyddoedd cynnar
teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Roedd offeiriad Eglwys Loegr yn aml yn
perthyn i’r dosbarth yma ac fel arfer roeddent yn cael eu rhestru gyda’r
bonedd.
Y bendefigaeth a’r bonedd
oedd pobl nad oeddynt yn gweithio i ennill bywoliaeth, ond yn ennill eu
harian trwy osod eu heiddo i denantiaid a chodi rhent. Yr oeddynt yn sicr
yn meddwl eu bod yn well na phobl oedd yn "masnachu"
neu yn gweithio iddynt, ac fel arfer roeddent yn cyflogi asiant neu "ddyn
busnes" i redeg pethau drostynt. Mae rhai o’r tai mawr lleol wedi’u sillafu
mewn ffordd od gan argraffwyr oedd ddim yn arfer ag enwau lleoedd Cymraeg,
ond roedd y bobl leol yn dal i fedru eu hadnabod. Er enghraifft, y Maslough
sydd ar y rhestr yw’r lle sy’n cael ei alw’n Maesllwch heddiw, wrth gwrs.
Yn gynnar yng nghyfnod Fictoria newidiodd teulu Wilkins, Maesllwch eu
henw i De Winton.
Deisiwyd yr
ynadon a’r siryfion oddi
ar y rhestr hon. Dyma’r dynion oedd yn gofalu am gyfraith a threfn ac
a oedd yn rhedeg materion y sir dros y goron. Roedd gwyr a gwragedd oedd
heb ddim eiddo yn cael eu gadael allan o’r system.
.
|