Y
Gelli a Dyffryn Gwy
Ennill bywoliaeth
Masnachwyr
lleol: ‘flannel to hairdresser’ gwlanen i rai oedd yn trin gwallt |
||
Cofiwch!
Y cyfenw sy'n dod gyntaf. |
Roedd fwy neu lai pob cymuned yng Nghanolbarth Cymru yn ystod cyfnod Fictoria â gwneuthurwyr gwlanen wedi’u rhestru yn y cyfeirlyfrau masnach. Gan fod yna gymaint o ddefaid ar y bryniau roedd yna ddigon o wlân a digon o nentydd i olchi’r gwlân. Sir Drefaldwyn oedd prif ganolfan y diwydiant ond roedd yna wehyddion gyda pheirannau gwehyddu yn gweithio yn Y Gelli fel y gallwch chi weld yma. Sylwch ymysg y groseriaid, mae dau groser sydd hefyd yn gwerthu gwêr neu’n delio mewn gwêr. Bloneg neu fraster anifeiliaid yw gwêr oedd yn cael ei ddefnyddio i wneud canhwyllau neu sebon. Roedd canhwyllau gwêr yn bethau drewllyd ond roeddynt yn rhad. Roedd y rhan fwyaf o deuluoedd tlawd ym mynd i’r gwely pan oedd hi’n tywyllu ond os oedd angen ychydig o olau arnynt roeddynt yn gorfod defnyddio golau o frwynen neu ganhwyllau gwêr. (Brwynen – planhigyn tebyg i wellt sy’n tyfu ar dir sydd braidd yn wlyb) Mae’n annhebygol iawn fod llawer o’r bobl gyffredin yn gallu fforddio ymweld â rhywun i drin eu gwallt. Fe fyddent yn syml iawn yn benthyg siswrn ac yn gwneud y gorau posibl eu hunain. Roedd steiliau gwallt merched cyfoethog yn eithaf cymhleth ac yn newid wrth i ffasiwn fynd a dod. |