Y Gelli a Dyffryn Gwy
Ennill bywoliaeth
  Masnachwyr lleol: 'carpenters to curriers'
seiri i drinwyr lledr
 
Cofiwch!
Y cyfenw sy'n dod gyntaf
.

extract from Pigot's DirectoryMae’r rhan fwyaf o’r busnesau a welwch chi yma i’w cael o hyd mewn cymunedau modern. Fe wnewch ddod o hyd i seiri, fferyllwyr, rhai sy’n gwerthu glo yn nhudalennau’r Yellow Pages heddiw. Serch hynny, nid yw pob un yn gyfarwydd i ni.

Nid oedd plastig i’w gael yn ystod oes Fictoria ac roedd gwydr yn eithaf drud. Felly roedd hylif yn cael ei gludo mewn casgenni. Gwaith y cwper oedd gwneud casgenni pren yn ei weithdy. (edrychwch i’r chwith). Roedd hwn yn waith medrus iawn ac yn waith pwysig. Pan nad oedd y bareli’n cael eu defnyddio roedd yn bosib eu tynnu oddi wrth ei gilydd a’u cadw nes bod eu hangen unwaith eto.

Gwaith y trinwyr lledr oedd paratoi crwyn a chynhyrchu lledr ohonynt. Mewn cyfnod cyn i blastig gael ei ddyfeisio roedd lledr yn cael llawer o ddefnydd. Roedd cryddion a chyfrwywyr lleol yn dibynnu ar drinwyr lledr am ddeunydd craidd.

 

Yn ôl i ddewislen ennill bywoli Y Gelli

Yn ôl i dop
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Y Gelli