Y
Gelli a Dyffryn Gwy
Cae cymunedol
System gaeau hynafol yn Llyswen | ||
Mae Map y Degwm 1840 yn dangos rhywbeth
go anarferol. Mae’n dangos darn mawr o dir wedi’i rannu’n gaeau o leiniau,
neu stribedi cul, ac mae’r cofnodion sy’n mynd gyda’r map yn galw’r tir
yma yn "Common Field" , Cae Cymunedol
neu Gytiroedd. Yn yr oesoedd canol rhannwyd tir âr yn lleiniau cul i’w
rhannu wedyn rhwng y pentrefwyr. Byddai pob pentrefwr yn cael yr un nifer
o leiniau, a byddent yn cael eu dosbarthu fel bod pawb yn cael eu rhan
o dir da a thir salach. Yn ogystal â hyn, roedd hawl gan y pentrefwyr
i droi eu hanifeiliaid i’r tir comin agored i bori. Mae’r map isod yn
dangos bod y system hynafol hon yn dal mewn bodolaeth yn Llyswen yn 1840.
|
||
MAPIAU’R DEGWM Yng nghyfnod Fictoria roedd yn rhaid i bawb bron dalu degwm i Eglwys Loegr. Ar ddechrau’i theyrnasiad daeth y degwm i fod yn dreth ar eich eiddo. Lluniwyd mapiau i ddangos pa eiddo oedd gan bawb |
Lleiniau Mr William Jones, Lower House Farm. | ||
Lleiniau John Badham, Upper House | ||
Tir yr eglwys a ddefnyddiwyd gan wahanol denantiaid | ||
Lleiniau Anne Thomas o bentref Llyswen | ||
Llain unigol Walter De Winton, Maesllwch | ||
Llain Thomas Lawrence o bentref Llyswen | ||
Nid oedd y mwyafrif o’r bobl uchod yn berchen eu ffermydd, ond hwy oedd y tenantiaid. Roedd Upper a Lower House Farms yn perthyn i Syr Charles Morgan ac roedd stadau lleol fel Maesllwch a Llangoed yn berchen ar stadau mawr. |